Skip to main content

Ynglŷn â phrosiect Rhwydwaith Western Gas

Ynglŷn â phrosiect Rhwydwaith Western Gas

Ynglŷn â phrosiect Rhwydwaith Western Gas

Western Gas Network

Mae’r Grid Cenedlaethol yn dod ag ynni’n fyw trwy gludo gwres, golau a phŵer i dai a busnesau pobl. Rydym hefyd wrth galon chwyldro i greu dyfodol ynni mwy gwyrdd, ac rydym yn ymroddedig i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol ein hunain i sero-net erbyn 2050, yn unol â tharged cyffredinol y DU.

Nid rhywbeth y gallwn ei gyflawni dros nos yw unioni’r fantol rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwn a faint y byddwn yn ei dynnu o’r atmosffer.

Wrth i ni archwilio ffyrdd newydd i harneisio ynni adnewyddadwy a newydd y ffordd y gweithredwn, mae’n rhaid i ni barhau i ddod ag ynni’n fyw drwy beirianneg drawsnewidiol sy’n darparu’r hyn y mae ei angen ar gartrefi a busnesau.

Nwy yw sylfaen y siwrnai i gyflawni sero-net. Mae’n darparu ffynhonnell gwres a phŵer diogel a dibynadwy i dros 80% o gartrefi a busnesau Prydain. Trwy gyflenwi sylfaen ddibynadwy i fodloni galw’r wlad am ynni, mae’n galluogi mwy a mwy o arloesi a thyfu ffynonellau ynni adnewyddadwy glanach, ond mwy ysbeidiol.

Gall nwy helpu datgarboneiddio gwres hefyd, sef ffynhonnell allyriadau carbon fwyaf y DU, am y gost isaf a gyda’r tarfu lleiaf i ddefnyddwyr. Mae hyn yn wir ar gyfer nwy naturiol a mathau eraill o nwy fel hydrogen a biomethan.

Ar yr un pryd, mae newid o ran ble y daw ein nwy ni ar hyn o bryd. Mae’r nwy sydd ar gael o feysydd Môr y Gogledd wedi lleihau ac i wneud iawn am y gwahaniaeth, mae mewnforion trwy derfynellau Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) yn cynyddu.

Mae angen i’r Grid Cenedlaethol ymateb i’r newidiadau hyn. Rydym yn hwyluso cystadlu ym maes cyflenwi nwy ym Mhrydain ac yn sicrhau bod rhwydwaith trosglwyddo nwy y DU – sef y pibelli a’r tyrbinau sy’n gyrru nwy o amgylch y wlad – yn gallu darparu ar gyfer natur newidiol cyflenwi. Rydym yn cysylltu ffynonellau cyflenwadau â chartrefi a busnesau.

Trosolwg o’r Prosiect

Ar ran orllewinol ein rhwydwaith, mae galluogi’r pontio i sero-net yn golygu bod angen i ni gynyddu capasiti i dderbyn mwy o nwy o Derfynnell LNG South Hook. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y gallwn ddod â’r dyddiad ymlaen pan fydd y capasiti ychwanegol ar gael, o Ionawr 2026 i yn ystod 2025, gyda’r bwriad y bydd holl waith y prosiect wedi’i gwblhau yn 2026.

Mae’r ffordd rydym yn cyflawni’r cynnydd hwn mewn capasiti yn bwysig – mae adeiladu’n creu effeithiau amgylcheddol a chymunedol, a thelir am gost y gwaith gan gartrefi a busnesau trwy filiau ynni.

Fe wnaeth dadansoddiad trylwyr a manwl o’n rhwydwaith ddatgelu sut gallwn gynyddu capasiti drwy’r maint lleiaf o seilwaith newydd, yr effaith leiaf ar bobl a’r amgylchedd ac am y gost leiaf. Mae’n sicrhau gwerth gorau i ddefnyddwyr yn y DU.

Bydd ein gwaith yn cynnwys:

  • Gosod 9 cilometr o biblinell nwy tanddaear newydd rhwng ein cyfleusterau presennol gerllaw Wormington, Swydd Gaerloyw, a Honeybourne, Swydd Gaerwrangon.
  • Cysylltu bob pen o’r biblinell i’r cyfleusterau presennol.

Gan y bydd y biblinell newydd danddaear a’n bod yn uwchraddio seilwaith presennol, gellir ymgymryd â llawer o’r gwaith fel datblygiad a ganiateir (mae hyn yn disgrifio rhai mathau o waith y gellir ymgymryd ag ef heb yr angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio). Mae angen cydsyniad gan awdurdodau lleol arnom ar gyfer rhai rhannau o’r prosiect ac i weithio gyda pherchnogion tir y bydd eu heiddo yn cynnal y seilwaith. Hoffwn hefyd ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, trigolion a busnesau lleol - bydd eu hadborth yn ein helpu i ddylunio gweithgarwch adeiladu yn y modd mwyaf priodol. Ar hyn o bryd mae’r gwaith wedi’i raglennu ar gyfer 2024, ond gallai hyn newid.

Gweld ein hanimeiddiadau
Animations Grid
Thumbnail
Datblygu ein rhwydwaith nwy.

Datblygu ein rhwydwaith nwy.

Datblygu ein rhwydwaith nwy.

Find out more
Thumbnail
Working with communities

Gweithio gyda chymunedau

Gweithio gyda chymunedau

Find out more
Thumbnail
Where does your gas come from

O ble mae eich nwy yn dod?

O ble mae eich nwy yn dod

Find out more